
2022 Local Elections – Labour in Gwynedd Manifesto
Labour in Gwynedd has an ambitious policy plan for our communities. The key goals that we would aim for as your Gwynedd Councillors are to:
1. Ensure that when second home owners are asked to pay the full council tax premium that all of that income is available to support the local need for affordable homes including community controlled housing.
2. Ensure that Gwynedd becomes a Real Living Wage County, with a commitment to providing Real Living Wages for care workers.
3. Have public consultation on a fairer local voting system and if there is public support, promote the introduction of a Proportional Representation Voting system for the first local election after 2022.
4. Work with schools to improve support for students with Additional Learning Needs and their parents, developing at the same time a broader syllabus for all students which includes environmental sustainability and a world view.
5. Set a public transport standard for all communities over 1000 population to have a daily bus service and all communities of over 2000 to have an evening and Sunday bus service linking to key transport hubs.
6. Stand by every coastal community in Gwynedd, ensuring practical help and support where change is inevitable.
7. Develop and expand the Welsh Language further throughout the County, so as to ensure new developments financially contribute towards language education as a condition of planning consent.
To see our ambitious policies for Gwynedd in full, click on the ‘Labour in Gwynedd’ button at the bottom of this page!
Etholiadau Lleol 2022 – Maniffesto Llafur yng Ngwynedd (Cymraeg)
Mae gan Lafur yng Ngwynedd gynllun polisi uchelgeisiol ar gyfer ein cymunedau.
Y nodau allweddol y byddwn yn anelu atynt fel eich Cynghorydd Gwynedd yw:
1. Sicrhau pan ofynnir i berchnogion ail gartrefi dalu’r premiwm treth gyngor llawn bod yr holl incwm hwnnw ar gael i gefnogi’r angen lleol am gartrefi afforddiadwy gan gynnwys tai a reolir gan y gymuned.
2. Sicrhau bod Gwynedd yn sir Gyflog Byw Gwirioneddol, gydag ymrwymiad i ddarparu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.
3. Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar system bleidleisio leol decach ac os oes cefnogaeth gyhoeddus, hyrwyddo cyflwyno system bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer yr etholiad lleol cyntaf ar ôl 2022.
4. Gweithio gydag ysgolion i wella’r cymorth i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u rhieni, gan ddatblygu ar yr un pryd faes llafur/cwricwlwm ehangach i bob myfyriwr gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol o safbwynt byd-eang.
5. Gosod safon trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pob cymuned dros 1000 o’r boblogaeth i gael gwasanaeth bws dyddiol a phob cymuned o dros 2000 i gael gwasanaeth bws gyda’r hwyr ac ar y Sul yn cysylltu â chanolfannau trafnidiaeth allweddol.
6. Sefyll wrth bob cymuned arfordirol yng Ngwynedd, gan sicrhau cymorth a chefnogaeth ymarferol lle mae newid yn anorfod.
7. Datblygu ac ehangu’r Gymraeg ymhellach ar draws y Sir, er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu’n ariannol at addysg iaith fel amod o ganiatâd cynllunio.
I weld ein polisïau uchelgeisiol ar gyfer Gwynedd yn llawn, cliciwch ar y botwm ‘Llafur yng Ngwynedd’ ar waelod y dudalen!